
Tîm o bobl broffesiynol
sydd yn awyddus i'ch cefnogi chi a'ch tîm i ddatblygu a thyfu
Rydym yn dod â phrofiad busnes ymarferol, profiad datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth a thechnegau a theclynnau i gyflwyno canlyniadau oddi fewn i'ch sefydliadau.
Gwenllian Owen
Mae stori Gwenllian nid yn unig yn un o lwyddiant proffesiynol ond o fyw bywyd i’r eithaf, croesawu heriau, meithrin cymuned a chael llawenydd ym mhob antur, o fewn a thu hwnt i fyd busnes.
Katy Roberts
Mae Katy yn arbenigwraig uchel ei pharch ym maes AD a datblygu arweinyddiaeth ac yn Gymrawd y CIPD.
Gyda gyrfa yn ymestyn dros 30 mlynedd, mae hi wedi grymuso ystod amrywiol o dimau o fewn busnesau newydd a chwmnïau rhyngwladol byd-eang.
Sut fedrwn ni eich helpu chi a’ch tîm?
Mae’n cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer eich sefydliad, yn unigryw ac wedi’i ddatblygu i ymateb i’ch anghenion.
Gall ein rhaglenni helpu i wella cydweithio rhwng unigolion a rhwng tîmoedd. Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu’r rhaglen a sicrhau fod gennych gyfuniad addas o weithdai, grwpiau trafod a sesiynnau hyfforddi unigol.
Byddwn hefyd yn eich cyflwyno i Fodelau Rôl sydd wedi tyfu a datblygu eu cwmniau yn llwyddiannus.
Byddwn yn eich helpu i edrych ar sut y gallwch wella twf a pherfformiad aelodau gwerthfawr eich tîm, helpu aelodau’r tîm i baratoi at newid o fewn y sefydliad a chefnogi datblygiad arweinwyr y dyfodol a’u cefnogi wrth iddynt ddatblygu a thyfu.