
Rydym yn credu mewn dull personol o ymdrin â'n holl wasanaethau
Darparu arweiniad ac adborth cefnogol i'ch helpu i wella eich perfformiad a chyflawni eich nodau
Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth a gwelliant parhaus sy'n sicrhau ein bod yn aros ar y blaen o ran tueddiadau ac arferion gorau'r diwydiant ac yn cynnig pedwar gwasanaeth syml
1
Hyfforddiant Gweithredol a Mentora Busnes
2
Proffilio Seicometrig DISC
3
Rhaglenni Dysgu
trwy Wneud
4
Hyfforddiant
Pwrpasol i chi
Hyfforddiant Gweithredol a Mentora Busnes
Bydd y sesiynau yn eich helpu i ganolbwyntio ar nodau, dyheadau, heriau, perthynas gwaith a goresgyn rhwystrau posibl.
Cynigiwn arweiniad ac adborth cefnogol i'ch helpu i wella eich perfformiad a chyrraedd eich nod. Rydym yn hapus i gynnig gwasanaeth dwyieithog drwy'r Gymraeg a'r Saesneg.
Bydd y sesiynau yn gymysgedd o:
Adlewyrchu
Cwestiynu
Gwrando
Herio
Arweiniad
Datblygu Dulliau i'ch cefnogi chi
Mynediad at Adnoddau
Proffilio Seicometrig DISC
Rydym yn weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ddarparu a hwyluso proffiliau ac asesiadau seicometrig DISC i sefydliadau, timau ac unigolion i gyflawni canlyniadau.
Mae DISCSimple yn gweithio gyda phobl i ddeall y corff o wybodaeth a elwir yn DISC ac i ddefnyddio'r egwyddorion i wella eu perthnasoedd. Mae DISC yn fodel a ddefnyddir gan dros filiwn o bobl bob blwyddyn yn y gweithle. Trwy ddarparu mynediad ar-lein ac wyneb yn wyneb i wybodaeth DISC rydym yn addo cadw DISC yn syml ac i helpu pobl i wella eu cyfathrebu, gwaith tim a chynhyrchiant.
Cael y gorau allan o'ch Tim
Beth petai cyfathrebu yn haws?
Beth petai gwaith tim yn gwella?
Beth petai cynhyrchiant yn tyfu?
Rydym yn cynnig proffiliau DISC arwahân neu fel rhan o'n rhaglenni a'n hyfforddiant unigol.
Gweithdai dysgu trwy brofiad a rhaglenni
Rydym yn deall yr heriau y mae arweinwyr a pherchnogion busnes yn eu hwynebu ac wedi datblygu ein rhaglenni byr i ddarparu dysgu ymarferol a thrawsnewidiol i gefnogi arweinwyr a pherchnogion busnes i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol i fagu hyder er mwyn arwain a thyfu yn yr amgylchedd heriol sy'n bodoli.
Mae dysgu drwy brofiad drwy weithgareddau'n ffordd bwerus o helpu pobl i nodi newidiadau sy'n ofynnol i'w sgiliau, eu hagweddau a'u hymddygiad, ac yna gweithredu'r newidiadau hynny ar gyfer gwell perfformiad. Rydym yn cynnig rhaglenni a gweithdai sy'n canolbwyntio ar fagu hyder arweinyddiaeth i'r rhai sy'n newydd i arweinyddiaeth, i berchnogion busnes ac i dimau i gyflawni newid trawsnewidiol i gefnogi twf busnes.
Gan ddefnyddio cyfuniad o Labordai Dysgu - sydd yn seiliedig ar wybodaeth ac yn ddysgu ymarferol drwy brofiad. Cylchau Hyfforddi - trafodaethau gyda chyfoedion dibynadwy a sesiynau Hyfforddi a Mentora Busnes Unigol. Rydym yn cynnig dwy raglen:
RHAGLEN 1: Dod yn Arweinydd Hyderus
Wedi'i anelu at reolwyr, goruchwylwyr, arweinwyr a pherchnogion busnes sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau a bod yn fwy hyderus.
RHAGLEN 2: Arwain Twf Busnes
Wedi'I anelu at reolwyr, goruchwylwyr, arweinwyr a pherchnogion busnes sydd eisiau arwain timoedd a rheoli newid er mwyn tyfu eu busnes.
Rydym yn cynnig grwpiau bychan, ac rydym yn cymryd amser i drafod pa raglen yw'r un iawn i chi.
Hyfforddiant Pwrpasol
Rydym yn deall fod eich anghenion fel busnes yn amrywio, rydym yn arbenigwyr ar adeiladu rhaglen yn benodol I ddiwallu eich anghenion unigryw:
Pam mae hi mor anodd i arwain a rheoli Tim?
Datblygu a thyfu eich Tim
Dod yn Arweinydd Hyderus
Tyfu eich busnes
Rheoli Newid mewn byd sy'n newid yn gyson
Hyfforddiant 1-1
Rheoli sgyrsiau anodd
Dirprwyo